Dafydd HuwJOHNYn dawel yn ei gartref ar 13eg Awst 2025, yn 86 mlwydd oed, hunodd Huw, Maesglas, Peniel, Caerfyrddin.
Priod hoffus Elonwy, tad cariadus Eurgain a'r ddiweddar Siwan, tad-yng-nghyfraith parchus Ned, tad-cu annwyl Samuel a Daniel, a brawd ffyddlon Granville a'r diweddar Peter.
Cymro i'r carn a ffrind i bawb.
Plygeiniwr a Thwmpathwr, ac Arweinydd y Gân ym Mhenygraig am dros 30 mlynedd. Byddwn yn gweld eisiau ei lais a'i wên.
Gwasanaeth Coffa ar ddydd Iau, 4ydd Medi 2025 yng Nghapel Penygraig, Croesyceiliog, Caerfyrddin am 1.00yp
Blodau'r teulu yn unig.
Rhoddion er cof, os dymunir, at: "Ymchwil Canser Cymru" trwy law Iwan Evans o Glanmor Evans a'i Fab
Trefnwyr Angladdau,
Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG
01267 237100
Keep me informed of updates